Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 18:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r un sy'n cadw ar wahân yn ceisio cweryl,ac yn ymosod ar bob cynllun.

2. Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall,dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun.

3. Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg,a gwarth ar ôl amarch.

4. Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion,yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb.

5. Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus,i amddifadu'r cyfiawn o farn.

6. Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen,a'i eiriau yn gofyn am gurfa.

7. Genau'r ynfyd yw ei ddinistr,ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.

8. Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

9. Y mae'r diog yn ei waithyn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.

10. Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.

11. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 18