Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 16:20-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo,a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.

21. Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus,a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg.

22. Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog,ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid.

23. Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus,ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.

24. Y mae geiriau teg fel diliau mêl,yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.

25. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth.

26. Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio,a'i enau sy'n ei annog ymlaen.

27. Y mae dihiryn yn cynllunio drwg;y mae fel tân poeth ar ei wefusau.

28. Y mae rhywun croes yn creu cynnen,a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 16