Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 16:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pobl biau trefnu eu meddyliau,ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod.

2. Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun,ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion.

3. Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD,a chyflawnir dy gynlluniau.

4. Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas,hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd.

5. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch;y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb.

6. Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd,a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg.

7. Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun,gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 16