Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 15:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae ateb llednais yn dofi dig,ond gair garw yn cynnau llid.

2. Y mae tafod y doeth yn clodfori deall,ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.

3. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,yn gwylio'r drwg a'r da.

4. Y mae tafod tyner yn bren bywiol,ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.

5. Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.

6. Y mae llawer o gyfoeth yn nhÅ·'r cyfiawn,ond trallod sydd yn enillion y drygionus.

7. Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,ond nid felly feddwl y ffyliaid.

8. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.

9. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.

10. Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 15