Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 13:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.

8. Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,ond ni chlyw'r tlawd fygythion.

9. Disgleiria goleuni'r cyfiawn,ond diffydd lamp y drygionus.

10. Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.

11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 13