Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 11:4-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter,ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.

5. Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union,ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.

6. Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn,ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr.

7. Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith,a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth.

8. Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd,ond fe â'r drygionus dros ei ben iddo.

9. Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog â'i eiriau,ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall.

10. Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn,a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus.

11. Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn,ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.

12. Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog,ond cadw'n dawel a wna'r deallus.

13. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach,ond y mae'r teyrngar yn ei chadw.

14. Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl,ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.

15. Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn,ond y mae'r un sy'n casáu mechnïaeth yn ddiogel.

16. Y mae gwraig raslon yn cael clod,ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth.

17. Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog,ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon.

18. Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus,ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg.

19. I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd,ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth.

20. Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd.

21. Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb,ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd.

22. Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch,felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr.

23. Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn,ond diflanna gobaith y drygionus.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 11