Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. y gyfraith a orchmynnodd Moses inni,yn etifeddiaeth i gynulliad Jacob.

5. Gwnaed ef yn frenin ar Jesurunpan ymgasglodd penaethiaid y bobl,a phan ddaeth llwythau Israel ynghyd.

6. Bydded Reuben fyw, ac nid marw,ond na foed ei dylwyth yn niferus.

7. A dyma a ddywedodd am Jwda:Clyw, O ARGLWYDD, lef Jwda,a dwg ef at ei bobl;â'i ddwylo yr ymdrechodd—ond bydd di'n gymorth iddo rhag ei elynion.

8. Dywedodd am Lefi:Rho i Lefi dy Twmim,a'th Wrim i'r un sy'n ffyddlon iti;fe'i profaist yn Massa,a dadlau ag ef wrth ddyfroedd Meriba.

9. Fe ddywed am ei dad a'i fam,“Nid wyf yn eu hystyried”,ac nid yw'n cydnabod ei frodyrnac yn arddel ei blant.Oherwydd bu'n cadw dy airac yn gwarchod dy gyfamod.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33