20. Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.
21. Gofalodd am y gorau iddo'i hun;cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.Daeth â phenaethiaid y bobl allan;gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.
22. Dywedodd am Dan:Cenau llew yw Dan,yn neidio allan o Basan.
23. Dywedodd am Nafftali:Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali,a llawn o fendith yr ARGLWYDD;bydd ei etifeddiaeth at y môr ac i'r de.
24. Dywedodd am Aser:Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill,a bod yn ffefryn gan ei frodyr,yn trochi ei droed mewn olew.
25. Bydded dy farrau o haearn a phres,a'th gryfder yn cydredeg â'th ddyddiau.
26. Nid oes tebyg i Dduw Jesurun,sy'n marchogaeth trwy'r nef i'th gynorthwyo,ac ar y cymylau yn ei ogoniant.
27. Duw'r oesoedd yw dy noddfa,ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol.Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen,a dweud, “Difetha ef.”
28. Cafodd Israel fyw yn ddiogel,a Jacob drigo heb ymyrraeth,mewn gwlad o ŷd a gwin,a'i wybrennau'n diferu gwlith.
29. Gwyn dy fyd, Israel! Pwy sydd debyg iti,yn bobl a waredir gan yr ARGLWYDD?Ef yw dy darian a'th gymorth,a chleddyf dy orfoledd hefyd.Bydd dy elynion yn ymostwng o'th flaen,a thithau'n sathru ar eu huchel-leoedd.