Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. â phrif gynnyrch y mynyddoedd hen,a ffrwythlondeb y bryniau oesol,

16. â gorau'r ddaear a'i llawnder,a ffafr preswylydd y berth.Doed hyn i gyd ar ben Joseff,ar gopa'r un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.

17. Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf,a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt;bydd yn cornio'r bobloedd â hwya'u gyrru hyd eithaf y ddaear.Rhai felly fydd myrddiynau Effraim,rhai felly fydd miloedd Manasse.

18. Dywedodd am Sabulon:Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel,ac Issachar yn dy bebyll.

19. Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,ac yno offrymu aberthau cywir.Yn wir, cânt sugno golud y môr,a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.

20. Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.

21. Gofalodd am y gorau iddo'i hun;cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.Daeth â phenaethiaid y bobl allan;gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.

22. Dywedodd am Dan:Cenau llew yw Dan,yn neidio allan o Basan.

23. Dywedodd am Nafftali:Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali,a llawn o fendith yr ARGLWYDD;bydd ei etifeddiaeth at y môr ac i'r de.

24. Dywedodd am Aser:Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill,a bod yn ffefryn gan ei frodyr,yn trochi ei droed mewn olew.

25. Bydded dy farrau o haearn a phres,a'th gryfder yn cydredeg â'th ddyddiau.

26. Nid oes tebyg i Dduw Jesurun,sy'n marchogaeth trwy'r nef i'th gynorthwyo,ac ar y cymylau yn ei ogoniant.

27. Duw'r oesoedd yw dy noddfa,ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol.Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen,a dweud, “Difetha ef.”

28. Cafodd Israel fyw yn ddiogel,a Jacob drigo heb ymyrraeth,mewn gwlad o ŷd a gwin,a'i wybrennau'n diferu gwlith.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33