Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. O'r holl greaduriaid sy'n byw mewn dŵr, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen.

10. Ond popeth sydd heb esgyll na chen, ni chewch ei fwyta; y mae'n aflan i chwi.

11. Cewch fwyta pob aderyn glân.

12. A dyma'r rhai na chewch eu bwyta: yr eryr, y fwltur, eryr y môr,

13. y boda, y barcud, unrhyw fath o gudyll,

14. unrhyw fath o frân,

15. yr estrys, y frân nos, yr wylan, unrhyw fath o hebog,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 14