Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. a phrynu beth bynnag a fynni: gwartheg, defaid, gwin, diod feddwol, neu unrhyw beth yr wyt yn ei ddymuno; a bwyta ef yno'n llawen gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti a'th deulu.

27. Paid ag esgeuluso'r Lefiaid sydd yn dy drefi, oherwydd nid oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi.

28. Ar ddiwedd pob tair blynedd tyrd â degwm dy holl gynnyrch am y flwyddyn honno, a'i gadw yn dy dref.

29. Caiff y Lefiaid, nad oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi, a'r dieithryn a'r amddifad a'r weddw yn dy dref, ddod a bwyta'u gwala; a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio di yn y cwbl yr wyt yn ei wneud.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 14