2. Pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi o holl bobloedd y byd i fod yn bobl arbennig iddo'i hun.
3. Nid ydych i fwyta dim ffiaidd.
4. Dyma'r anifeiliaid y cewch eu bwyta: eidion, dafad, gafr,
5. carw, ewig, iwrch, gafr wyllt, gafr hirgorn, gafrewig a hydd.
6. Cewch fwyta pob anifail sy'n hollti'r ddau ewin ac yn eu fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil.
7. Ond nid ydych i fwyta'r rhai sy'n cnoi cil yn unig neu'n hollti'r ewin fforchog yn unig, sef camel, ysgyfarnog, broch; am eu bod yn cnoi cil ond heb fforchi'r ewin y maent yn aflan ichwi.
8. Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin, heb gnoi cil; y mae'n aflan i chwi. Nid ydych i fwyta'u cig, na chyffwrdd â'u cyrff.
9. O'r holl greaduriaid sy'n byw mewn dŵr, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen.
10. Ond popeth sydd heb esgyll na chen, ni chewch ei fwyta; y mae'n aflan i chwi.
11. Cewch fwyta pob aderyn glân.
12. A dyma'r rhai na chewch eu bwyta: yr eryr, y fwltur, eryr y môr,
13. y boda, y barcud, unrhyw fath o gudyll,
14. unrhyw fath o frân,
15. yr estrys, y frân nos, yr wylan, unrhyw fath o hebog,
16. y dylluan, y dylluan wen, y gigfran,
17. y pelican, y fwltur mawr, y fulfran,
18. y ciconia ac unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.
19. Y mae unrhyw bryf adeiniog yn aflan i chwi; nid ydych i'w fwyta.
20. Cewch fwyta unrhyw beth adeiniog glân.
21. Peidiwch â bwyta dim sydd wedi marw ohono'i hun; rhowch ef i'r dieithryn sydd yn eich trefi i'w fwyta, neu gwerthwch ef i estron, oherwydd pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi. Peidiwch â berwi myn yn llaeth ei fam.