Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. yr estrys, y frân nos, yr wylan, unrhyw fath o hebog,

16. y dylluan, y dylluan wen, y gigfran,

17. y pelican, y fwltur mawr, y fulfran,

18. y ciconia ac unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.

19. Y mae unrhyw bryf adeiniog yn aflan i chwi; nid ydych i'w fwyta.

20. Cewch fwyta unrhyw beth adeiniog glân.

21. Peidiwch â bwyta dim sydd wedi marw ohono'i hun; rhowch ef i'r dieithryn sydd yn eich trefi i'w fwyta, neu gwerthwch ef i estron, oherwydd pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi. Peidiwch â berwi myn yn llaeth ei fam.

22. Bob blwyddyn gofala ddegymu holl gynnyrch dy had sy'n tyfu yn dy faes.

23. Yr wyt i fwyta dy ddegwm o ŷd, gwin ac olew, a chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, er mwyn iti ddysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw bob amser.

24. Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio, os bydd yn ormod o daith iti fedru cludo'r degwm, am dy fod yn rhy bell o'r man a ddewisir gan yr ARGLWYDD dy Dduw i osod ei enw,

25. yna rho ei werth mewn arian. Cymer yr arian gyda thi, a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei ddewis,

26. a phrynu beth bynnag a fynni: gwartheg, defaid, gwin, diod feddwol, neu unrhyw beth yr wyt yn ei ddymuno; a bwyta ef yno'n llawen gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti a'th deulu.

27. Paid ag esgeuluso'r Lefiaid sydd yn dy drefi, oherwydd nid oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi.

28. Ar ddiwedd pob tair blynedd tyrd â degwm dy holl gynnyrch am y flwyddyn honno, a'i gadw yn dy dref.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 14