Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. y boda, y barcud, unrhyw fath o gudyll,

14. unrhyw fath o frân,

15. yr estrys, y frân nos, yr wylan, unrhyw fath o hebog,

16. y dylluan, y dylluan wen, y gigfran,

17. y pelican, y fwltur mawr, y fulfran,

18. y ciconia ac unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.

19. Y mae unrhyw bryf adeiniog yn aflan i chwi; nid ydych i'w fwyta.

20. Cewch fwyta unrhyw beth adeiniog glân.

21. Peidiwch â bwyta dim sydd wedi marw ohono'i hun; rhowch ef i'r dieithryn sydd yn eich trefi i'w fwyta, neu gwerthwch ef i estron, oherwydd pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi. Peidiwch â berwi myn yn llaeth ei fam.

22. Bob blwyddyn gofala ddegymu holl gynnyrch dy had sy'n tyfu yn dy faes.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 14