Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 8:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Daeth at yr hwrdd deugorn a welais yn sefyll ar lan yr afon, a rhuthro arno â'i holl nerth.

7. Gwelais ef yn nesáu'n ffyrnig at yr hwrdd, yn ei daro ac yn torri ei ddau gorn, ac am nad oedd yr hwrdd yn ddigon cryf i'w wrthsefyll, bwriodd ef i'r llawr a'i fathru; ac nid oedd neb i achub yr hwrdd o'i afael.

8. Yna ymorchestodd y bwch gafr yn fwy byth, ond yn ei anterth torrwyd y corn mawr, a chododd pedwar corn amlwg yn ei le, yn wynebu tua phedwar gwynt y nefoedd.

9. Ac allan o un ohonynt daeth corn bychan a dyfodd yn gryf tua'r de a'r dwyrain a'r wlad hyfryd.

10. Dyrchafodd hwn at lu'r nef, a thaflu rhai o'r llu ac o'r sêr i'r llawr a'u mathru.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 8