Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gweledigaeth yr Hwrdd a'r Bwch Gafr

1. Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Belsassar cefais i, Daniel, weledigaeth arall at yr un gyntaf a gefais.

2. Yr oeddwn yn y palas yn Susan yn nhalaith Elam, a gwelais yn y weledigaeth fy mod wrth yr afon Ulai.

3. Edrychais i fyny a gwelais hwrdd yn sefyll ar lan yr afon. Yr oedd ganddo ddau gorn hir, gyda'r hiraf o'r ddau yn tyfu ar ôl y llall.

4. Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua'r gorllewin, y gogledd a'r de, ac ni allai'r un anifail ei wrthsefyll na neb achub o'i afael. Yr oedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn cyflawni gorchestion.

5. Fel yr oeddwn yn ystyried hyn gwelais fwch gafr a chanddo gorn enfawr rhwng ei lygaid; yr oedd yn dod o'r gorllewin ar draws yr holl wlad heb gyffwrdd â'r ddaear.

6. Daeth at yr hwrdd deugorn a welais yn sefyll ar lan yr afon, a rhuthro arno â'i holl nerth.

7. Gwelais ef yn nesáu'n ffyrnig at yr hwrdd, yn ei daro ac yn torri ei ddau gorn, ac am nad oedd yr hwrdd yn ddigon cryf i'w wrthsefyll, bwriodd ef i'r llawr a'i fathru; ac nid oedd neb i achub yr hwrdd o'i afael.

8. Yna ymorchestodd y bwch gafr yn fwy byth, ond yn ei anterth torrwyd y corn mawr, a chododd pedwar corn amlwg yn ei le, yn wynebu tua phedwar gwynt y nefoedd.

9. Ac allan o un ohonynt daeth corn bychan a dyfodd yn gryf tua'r de a'r dwyrain a'r wlad hyfryd.

10. Dyrchafodd hwn at lu'r nef, a thaflu rhai o'r llu ac o'r sêr i'r llawr a'u mathru.

11. Ymchwyddodd yn erbyn tywysog y llu, a diddymu'r offrwm dyddiol a difetha'i gysegr.

12. Mewn pechod gosodwyd llu yn erbyn yr offrwm dyddiol, a thaflu gwirionedd i'r llawr. Felly y llwyddodd yn y cwbl a wnaeth.

13. Clywais un o'r rhai sanctaidd yn siarad, ac un arall yn dweud wrth yr un a siaradai, “Am ba hyd y pery'r weledigaeth o'r offrwm dyddiol, a'r pechod anrheithiol, a sarnu'r cysegr a'r llu?”

14. Dywedodd wrtho, “Am ddwy fil tri chant o ddyddiau, hwyr a bore; yna fe adferir y cysegr.”

Gabriel yn Esbonio'r Weledigaeth

15. Ac fel yr oeddwn i, Daniel, yn edrych ar y weledigaeth ac yn ceisio'i deall, gwelwn un tebyg i fod dynol yn sefyll o'm blaen,

16. a chlywais lais dynol yn galw dros afon Ulai ac yn dweud, “Gabriel, esbonia'r weledigaeth.”

17. Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, “Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth.”

18. Wrth iddo siarad â mi, syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg, ond cyffyrddodd ef â mi a'm gosod ar fy nhraed,

19. a dweud, “Yn wir rhof wybod iti beth a ddigwydd pan ddaw'r llid i ben, oherwydd y mae i'r diwedd ei amser penodedig.

20. Brenhinoedd Media a Persia yw'r hwrdd deugorn a welaist.

21. Brenin Groeg yw'r bwch blewog, a'r corn mawr rhwng ei lygaid yw'r brenin cyntaf.

22. A'r un a dorrwyd, a phedwar yn codi yn ei le, dyma bedair brenhiniaeth yn codi o'r un genedl, ond heb feddu'r un nerth ag ef.”

23. “Ac ar ddiwedd eu teyrnasiad,pan fydd y troseddwyr yn eu hanterth,fe gyfyd brenin creulon a chyfrwys.

24. Bydd ei nerth yn fawr,ac fe wna niwed anhygoel;fe lwydda yn yr hyn a wna,ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint.

25. Yn ei gyfrwystra fe wna i ddichell ffynnu;cynllunia orchestion yn ei galon,a heb rybudd fe ddinistria lawer.Heria dywysog y tywysogion,ond fe'i torrir i lawr heb gymorth llaw.

26. Y mae'r weledigaeth a roddwyd am yr hwyr a'r bore yn wir;ond cadw di'r weledigaeth dan sêl,am ei bod yn cyfeirio at y dyfodol pell.”

27. Yr oeddwn i, Daniel, wedi diffygio, a bûm yn glaf am ddyddiau. Yna codais i wasanaethu'r brenin, wedi fy syfrdanu gan y weledigaeth a heb ei deall.