Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 8:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua'r gorllewin, y gogledd a'r de, ac ni allai'r un anifail ei wrthsefyll na neb achub o'i afael. Yr oedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn cyflawni gorchestion.

5. Fel yr oeddwn yn ystyried hyn gwelais fwch gafr a chanddo gorn enfawr rhwng ei lygaid; yr oedd yn dod o'r gorllewin ar draws yr holl wlad heb gyffwrdd â'r ddaear.

6. Daeth at yr hwrdd deugorn a welais yn sefyll ar lan yr afon, a rhuthro arno â'i holl nerth.

7. Gwelais ef yn nesáu'n ffyrnig at yr hwrdd, yn ei daro ac yn torri ei ddau gorn, ac am nad oedd yr hwrdd yn ddigon cryf i'w wrthsefyll, bwriodd ef i'r llawr a'i fathru; ac nid oedd neb i achub yr hwrdd o'i afael.

8. Yna ymorchestodd y bwch gafr yn fwy byth, ond yn ei anterth torrwyd y corn mawr, a chododd pedwar corn amlwg yn ei le, yn wynebu tua phedwar gwynt y nefoedd.

9. Ac allan o un ohonynt daeth corn bychan a dyfodd yn gryf tua'r de a'r dwyrain a'r wlad hyfryd.

10. Dyrchafodd hwn at lu'r nef, a thaflu rhai o'r llu ac o'r sêr i'r llawr a'u mathru.

11. Ymchwyddodd yn erbyn tywysog y llu, a diddymu'r offrwm dyddiol a difetha'i gysegr.

12. Mewn pechod gosodwyd llu yn erbyn yr offrwm dyddiol, a thaflu gwirionedd i'r llawr. Felly y llwyddodd yn y cwbl a wnaeth.

13. Clywais un o'r rhai sanctaidd yn siarad, ac un arall yn dweud wrth yr un a siaradai, “Am ba hyd y pery'r weledigaeth o'r offrwm dyddiol, a'r pechod anrheithiol, a sarnu'r cysegr a'r llu?”

14. Dywedodd wrtho, “Am ddwy fil tri chant o ddyddiau, hwyr a bore; yna fe adferir y cysegr.”

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 8