14. Dywedodd wrtho, “Am ddwy fil tri chant o ddyddiau, hwyr a bore; yna fe adferir y cysegr.”
15. Ac fel yr oeddwn i, Daniel, yn edrych ar y weledigaeth ac yn ceisio'i deall, gwelwn un tebyg i fod dynol yn sefyll o'm blaen,
16. a chlywais lais dynol yn galw dros afon Ulai ac yn dweud, “Gabriel, esbonia'r weledigaeth.”
17. Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, “Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth.”
18. Wrth iddo siarad â mi, syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg, ond cyffyrddodd ef â mi a'm gosod ar fy nhraed,
19. a dweud, “Yn wir rhof wybod iti beth a ddigwydd pan ddaw'r llid i ben, oherwydd y mae i'r diwedd ei amser penodedig.
20. Brenhinoedd Media a Persia yw'r hwrdd deugorn a welaist.
21. Brenin Groeg yw'r bwch blewog, a'r corn mawr rhwng ei lygaid yw'r brenin cyntaf.
22. A'r un a dorrwyd, a phedwar yn codi yn ei le, dyma bedair brenhiniaeth yn codi o'r un genedl, ond heb feddu'r un nerth ag ef.”
23. “Ac ar ddiwedd eu teyrnasiad,pan fydd y troseddwyr yn eu hanterth,fe gyfyd brenin creulon a chyfrwys.
24. Bydd ei nerth yn fawr,ac fe wna niwed anhygoel;fe lwydda yn yr hyn a wna,ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint.
25. Yn ei gyfrwystra fe wna i ddichell ffynnu;cynllunia orchestion yn ei galon,a heb rybudd fe ddinistria lawer.Heria dywysog y tywysogion,ond fe'i torrir i lawr heb gymorth llaw.
26. Y mae'r weledigaeth a roddwyd am yr hwyr a'r bore yn wir;ond cadw di'r weledigaeth dan sêl,am ei bod yn cyfeirio at y dyfodol pell.”
27. Yr oeddwn i, Daniel, wedi diffygio, a bûm yn glaf am ddyddiau. Yna codais i wasanaethu'r brenin, wedi fy syfrdanu gan y weledigaeth a heb ei deall.