Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 8:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Os mur yw hi,byddwn yn adeiladu caer arian arno;os drws,byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.

10. Mur wyf fi,a'm bronnau fel tyrau;yn ei olwg ef yr wyffel un yn rhoi boddhad.

11. Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon;pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr,yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.

12. Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun;fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian,a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant.

13. Ti sy'n eistedd yn yr ardd,a chyfeillion yn gwrando ar dy lais,gad i mi dy glywed.

14. Brysia allan, fy nghariad,a bydd yn debyg i afrewig,neu'r hydd ifancar fynyddoedd y perlysiau.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 8