Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 8:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.

4. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

5. Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch,yn pwyso ar ei chariad?Deffroais di dan y pren afalau,lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.

6. Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl ar dy fraich;oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,a nwyd mor greulon â'r bedd;y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd,fel fflam angerddol.

7. Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad,ac ni all afonydd ei foddi.Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad,byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 8