Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 7:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,ac yntau'n fy chwennych.

11. Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes,a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.

12. Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd,i edrych a yw'r winwydden yn blaguro,a'i blodau yn agor,a'r pomgranadau yn blodeuo;yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.

13. Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl;o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau,ffrwythau newydd a hena gedwais i ti, fy nghariad.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 7