Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 1:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Pan yw'r brenin ar ei wely,y mae fy nard yn gwasgaru arogl.

13. Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrryn gorffwys rhwng fy mronnau.

14. Y mae fy nghariad fel tusw o flodau hennao winllannoedd En-gedi.

15. O mor brydferth wyt, f'anwylyd.O mor brydferth,a'th lygaid fel colomennod!

16. Mor brydferth wyt, fy nghariad.O mor ddymunol!Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail.

17. Y cedrwydd yw trawstiau ein tŷa'r ffynidwydd yw ei ddistiau.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 1