Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 1:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Fe wnawn iti gadwynau aurgydag addurniadau arian.

12. Pan yw'r brenin ar ei wely,y mae fy nard yn gwasgaru arogl.

13. Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrryn gorffwys rhwng fy mronnau.

14. Y mae fy nghariad fel tusw o flodau hennao winllannoedd En-gedi.

15. O mor brydferth wyt, f'anwylyd.O mor brydferth,a'th lygaid fel colomennod!

16. Mor brydferth wyt, fy nghariad.O mor ddymunol!Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail.

17. Y cedrwydd yw trawstiau ein tŷa'r ffynidwydd yw ei ddistiau.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 1