Hen Destament

Testament Newydd

Cân Y Tri Llanc 1:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Traddodaist ni i ddwylo gelynion digyfraith, yr atgasaf o'r di-gred,ac i frenin anghyfiawn, y mwyaf drygionus ar wyneb yr holl ddaear.

10. Ac yn awr ni allwn agor ein genau;cywilydd a gwaradwydd a ddaeth i ran dy weision a'th addolwyr di.

11. Er mwyn dy enw, paid â'n bwrw ymaith yn llwyr;paid â diddymu dy gyfamod,

12. na throi ymaith dy drugaredd oddi wrthym,er mwyn Abraham dy anwylyd,ac er mwyn Isaac dy was,ac er mwyn Israel dy sanct.

13. Lleferaist wrthynt gan addo iddynty byddit yn amlhau eu had fel sêr y nefac fel y tywod ar lan y môr.

14. Ond yn awr, Arglwydd, fe'n gwnaed ni'n lleiaf o'r holl genhedloedd;nyni heddiw yw'r rhai distadlaf ar yr holl ddaear, ar gyfrif ein pechodau.

Darllenwch bennod gyflawn Cân Y Tri Llanc 1