Penodau

  1. 1

Hen Destament

Testament Newydd

Cân Y Tri Llanc 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gweddi Asarias

1. Rhodiodd y tri yng nghanol y fflam gan ganu mawl i Dduw a bendithio'r Arglwydd.

2. Safodd Asarias, a chan agor ei enau yng nghanol y tân gweddïodd fel hyn:

3. “Bendigedig a moliannus wyt ti, O Arglwydd, Duw ein hynafiaid;gogoneddus yw dy enw dros byth.

4. Oherwydd cyfiawn wyt ym mhob peth a wnaethost i ni;y mae dy holl weithredoedd yn gywir, a'th ffyrdd yn uniawn,a'th holl farnau yn wir.

5. Barnedigaethau gwir a wnaethost ym mhob peth a ddygaist arnom,ac ar Jerwsalem, dinas sanctaidd ein hynafiaid,oherwydd mewn gwirionedd a barn y dygaist hyn oll arnom ar gyfrif ein pechodau.

6. Do, pechasom, a thorasom dy gyfraith trwy gefnu arnat.

7. Ym mhob peth pechasom, ac ni wrandawsom ar dy orchmynion,na'u cadw hwy, na gweithredufel y gorchmynnaist inni er ein lles.

8. A phob peth a ddygaist arnom, a phob peth a wnaethost inni,mewn barn gywir y gwnaethost y cwbl.

9. Traddodaist ni i ddwylo gelynion digyfraith, yr atgasaf o'r di-gred,ac i frenin anghyfiawn, y mwyaf drygionus ar wyneb yr holl ddaear.

10. Ac yn awr ni allwn agor ein genau;cywilydd a gwaradwydd a ddaeth i ran dy weision a'th addolwyr di.

11. Er mwyn dy enw, paid â'n bwrw ymaith yn llwyr;paid â diddymu dy gyfamod,

12. na throi ymaith dy drugaredd oddi wrthym,er mwyn Abraham dy anwylyd,ac er mwyn Isaac dy was,ac er mwyn Israel dy sanct.

13. Lleferaist wrthynt gan addo iddynty byddit yn amlhau eu had fel sêr y nefac fel y tywod ar lan y môr.

14. Ond yn awr, Arglwydd, fe'n gwnaed ni'n lleiaf o'r holl genhedloedd;nyni heddiw yw'r rhai distadlaf ar yr holl ddaear, ar gyfrif ein pechodau.

15. Nid oes yn y cyfwng hwn na phennaeth na phroffwyd nac arweinydd,na phoethoffrwm nac aberth nac offrwm nac arogldarth,na man i aberthu ger dy fron di, a chael trugaredd.

16. Eto, wrth inni ddod â'n henaid drylliedig a'n hysbryd gostyngedig, derbynier ni

17. fel pe baem yn dod â phoethoffrymau o hyrddod a theirw,ac â miloedd ar filoedd o ŵyn breision.Ie, bydded ein haberth ger dy fron di heddiw,a chaniatâ inni ganlyn ar dy ôl,oherwydd ni bydd gwaradwydd i'r rhai sy'n ymddiried ynot ti.

18. Bellach yr ydym yn dy ganlyn â'n holl galon, ac yn dy ofni,

19. ac yn ceisio dy ffafr. Paid â'n gwaradwyddo;ond ymwna â ni yn ôl dy addfwynder,ac yn ôl amlder dy drugaredd.

20. Gwared ni yn ôl dy ryfeddodau,a dyro ogoniant i'th enw, O Arglwydd.

21. Cywilyddier pawb sy'n peri niwed i'th weision;gwaradwydder hwy nes iddynt golli pob gallu ac arglwyddiaeth,a dryllier eu nerth hwy.

22. Gad iddynt wybod mai tydi yw'r Arglwydd, yr unig Dduw,a'th ogoniant yn ymledu dros yr holl fyd.”

Cân y Tri Llanc

23. Yr oedd gweision y brenin, y rheini a'u taflodd i mewn, yn dal i boethi'r ffwrnais â nafftha a phyg ac â ffaglau a choed tân,

24. nes i'r fflam neidio naw cufydd a deugain uwchlaw'r ffwrnais.

25. A lledaenodd y fflam, a llosgi'r Caldeaid a ddaliwyd yn sefyll o gwmpas y ffwrnais.

26. Ond daeth angel yr Arglwydd i lawr i'r ffwrnais i fod gydag Asarias a'i gyfeillion, a gyrrodd fflam y tân allan o'r ffwrnais,

27. a gwnaeth i ganol y ffwrnais fod fel petai cawod o leithder yn chwyrlïo trwyddo, ac ni chyffyrddodd y tân â hwy o gwbl, na pheri iddynt unrhyw boen na gofid.

28. Yna, ag un llais, dechreuodd y tri yn y ffwrnais ganu mawl, a gogoneddu a bendithio Duw fel hyn:

29. “Bendigedig wyt ti, O Arglwydd, Duw ein hynafiaid;moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.

30. Bendigedig yw dy enw gogoneddus a sanctaidd;tra moliannus a thra dyrchafedig yw dros byth.

31. Bendigedig wyt ti yn dy deml sanctaidd a gogoneddus;tra theilwng wyt i'th foliannu a'th glodfori dros byth.

32. Bendigedig wyt ti, sy'n gwylio'r dyfnderoedd o'th eisteddle uwchben y cerwbiaid;moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.

33. Bendigedig wyt ti ar orsedd dy frenhiniaeth;tra theilwng wyt i'th foliannu a'th ddyrchafu dros byth.

34. Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nef;teilwng wyt i'th foliannu a'th ogoneddu dros byth.

35. “Bendithiwch yr Arglwydd, holl weithredoedd yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

36. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r nefoedd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

37. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi angylion yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

38. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r dyfroedd oll sydd uwchben y ffurfafen;molwch ef a'i dra-dyrchafu dros byth.

39. Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd;molwch ef a'i dra-dyrchafu dros byth.

40. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi haul a lleuad;molwch ef a'i dra-dyrchafu dros byth.

41. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi sêr y nefoedd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

42. Bendithiwch yr Arglwydd, bob cawod a gwlith;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

43. Bendithiwch yr Arglwydd, yr holl wyntoedd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

44. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi dân a gwres;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

45. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi aeaf a haf;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

46. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi wlithoedd a chawodydd eira;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

47. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi nosau a dyddiau;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

48. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi oleuni a thywyllwch;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

49. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi rew ac oerfel;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

50. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi lwydrew ac eira;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

51. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi fellt a chymylau;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

52. Bendithied y ddaear yr Arglwydd;moled ef a'i dra-dyrchafu dros byth.

53. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi fynyddoedd a bryniau;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

54. Bendithiwch yr Arglwydd, bopeth sy'n tyfu ar y ddaear;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

55. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi foroedd ac afonydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

56. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi ffynhonnau;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

57. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi forfilod, a phob creadur sy'n symud yn y dyfroedd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

58. Bendithiwch yr Arglwydd, holl adar yr awyr;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

59. Bendithiwch yr Arglwydd, yr holl fwystfilod ac anifeiliaid;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

60. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi blant dynion;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

61. Bendithiwch yr Arglwydd, O Israel;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

62. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi offeiriaid yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

63. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi weision yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

64. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi ysbrydoedd ac eneidiau'r cyfiawn;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

65. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r rhai sanctaidd a gostyngedig eu calon;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

66. Bendithiwch yr Arglwydd, Ananias, Asarias, a Misael;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.Oherwydd gwaredodd ni o Drigfan y Meirw a'n hachub o afael marwolaeth;gollyngodd ni'n rhydd o ganol y ffwrnais a'i gwenfflam,a'n gwaredu o ganol y tân.

67. Clodforwch yr Arglwydd, oherwydd da yw;oherwydd y mae ei drugaredd ef dros byth.

68. Chwi oll sydd yn addoli'r Arglwydd, bendithiwch Dduw y duwiau;molwch a chlodforwch ef, oherwydd y mae ei drugaredd ef dros byth.”