Hen Destament

Testament Newydd

Cân Y Tri Llanc 1:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. nes i'r fflam neidio naw cufydd a deugain uwchlaw'r ffwrnais.

25. A lledaenodd y fflam, a llosgi'r Caldeaid a ddaliwyd yn sefyll o gwmpas y ffwrnais.

26. Ond daeth angel yr Arglwydd i lawr i'r ffwrnais i fod gydag Asarias a'i gyfeillion, a gyrrodd fflam y tân allan o'r ffwrnais,

27. a gwnaeth i ganol y ffwrnais fod fel petai cawod o leithder yn chwyrlïo trwyddo, ac ni chyffyrddodd y tân â hwy o gwbl, na pheri iddynt unrhyw boen na gofid.

28. Yna, ag un llais, dechreuodd y tri yn y ffwrnais ganu mawl, a gogoneddu a bendithio Duw fel hyn:

Darllenwch bennod gyflawn Cân Y Tri Llanc 1