Hen Destament

Testament Newydd

Cân Y Tri Llanc 1:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Ond yn awr, Arglwydd, fe'n gwnaed ni'n lleiaf o'r holl genhedloedd;nyni heddiw yw'r rhai distadlaf ar yr holl ddaear, ar gyfrif ein pechodau.

15. Nid oes yn y cyfwng hwn na phennaeth na phroffwyd nac arweinydd,na phoethoffrwm nac aberth nac offrwm nac arogldarth,na man i aberthu ger dy fron di, a chael trugaredd.

16. Eto, wrth inni ddod â'n henaid drylliedig a'n hysbryd gostyngedig, derbynier ni

17. fel pe baem yn dod â phoethoffrymau o hyrddod a theirw,ac â miloedd ar filoedd o ŵyn breision.Ie, bydded ein haberth ger dy fron di heddiw,a chaniatâ inni ganlyn ar dy ôl,oherwydd ni bydd gwaradwydd i'r rhai sy'n ymddiried ynot ti.

18. Bellach yr ydym yn dy ganlyn â'n holl galon, ac yn dy ofni,

19. ac yn ceisio dy ffafr. Paid â'n gwaradwyddo;ond ymwna â ni yn ôl dy addfwynder,ac yn ôl amlder dy drugaredd.

20. Gwared ni yn ôl dy ryfeddodau,a dyro ogoniant i'th enw, O Arglwydd.

21. Cywilyddier pawb sy'n peri niwed i'th weision;gwaradwydder hwy nes iddynt golli pob gallu ac arglwyddiaeth,a dryllier eu nerth hwy.

22. Gad iddynt wybod mai tydi yw'r Arglwydd, yr unig Dduw,a'th ogoniant yn ymledu dros yr holl fyd.”

23. Yr oedd gweision y brenin, y rheini a'u taflodd i mewn, yn dal i boethi'r ffwrnais â nafftha a phyg ac â ffaglau a choed tân,

24. nes i'r fflam neidio naw cufydd a deugain uwchlaw'r ffwrnais.

Darllenwch bennod gyflawn Cân Y Tri Llanc 1