Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 18:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr adeg honno yr oedd llwyth Dan yn chwilio am randir i fyw ynddo, oherwydd hyd hynny nid oeddent wedi cael rhandir ymhlith llwythau Israel.

2. Anfonodd y Daniaid bump o ddynion teilwng ar ran y llwyth cyfan, i fynd o Sora ac Estaol i ysbïo'r wlad a'i chwilio. Wedi iddynt dderbyn y gorchymyn i fynd i chwilio'r wlad, aethant cyn belled â thŷ Mica ym mynydd-dir Effraim, a threulio'r nos yno.

3. Pan oeddent gerllaw tŷ Mica, dyma hwy'n adnabod llais y llanc o Lefiad; troesant i mewn a gofyn iddo, “Pwy ddaeth â thi yma? Beth wyt ti'n ei wneud yn y fan hon? Pa fusnes sydd gennyt yma?”

4. Eglurodd sut yr oedd Mica wedi gweithredu gydag ef: “Y mae wedi fy nghyflogi, ac yr wyf finnau wedi dod yn offeiriad iddo.”

5. Dywedasant wrtho, “Gofyn i Dduw, inni gael gwybod a lwyddwn ar ein taith.”

6. Dywedodd yr offeiriad wrthynt, “Ewch mewn heddwch; y mae'ch taith dan ofal yr ARGLWYDD.”

7. Aeth y pump i ffwrdd, a chyrraedd Lais. Yno gwelsant fod y bobl yn byw'n ddiogel, yr un fath â'r Sidoniaid, yn dawel a dibryder, heb fod yn brin o ddim ar y ddaear, ond yn berchnogion ar gyfoeth. Yr oeddent yn bell oddi wrth y Sidoniaid, heb gysylltiad rhyngddynt a neb.

8. Wedi iddynt ddychwelyd at eu pobl i Sora ac Estaol, gofynnodd eu pobl, “Beth yw'ch barn?”

9. Ac meddent hwy, “Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.

10. Pan ddewch yno, byddwch yn dod at bobl ddibryder ac i wlad eang; yn wir y mae Duw wedi rhoi i chwi le heb ynddo brinder o ddim ar y ddaear.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 18