Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Mica a Llwyth Dan

1. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr adeg honno yr oedd llwyth Dan yn chwilio am randir i fyw ynddo, oherwydd hyd hynny nid oeddent wedi cael rhandir ymhlith llwythau Israel.

2. Anfonodd y Daniaid bump o ddynion teilwng ar ran y llwyth cyfan, i fynd o Sora ac Estaol i ysbïo'r wlad a'i chwilio. Wedi iddynt dderbyn y gorchymyn i fynd i chwilio'r wlad, aethant cyn belled â thŷ Mica ym mynydd-dir Effraim, a threulio'r nos yno.

3. Pan oeddent gerllaw tŷ Mica, dyma hwy'n adnabod llais y llanc o Lefiad; troesant i mewn a gofyn iddo, “Pwy ddaeth â thi yma? Beth wyt ti'n ei wneud yn y fan hon? Pa fusnes sydd gennyt yma?”

4. Eglurodd sut yr oedd Mica wedi gweithredu gydag ef: “Y mae wedi fy nghyflogi, ac yr wyf finnau wedi dod yn offeiriad iddo.”

5. Dywedasant wrtho, “Gofyn i Dduw, inni gael gwybod a lwyddwn ar ein taith.”

6. Dywedodd yr offeiriad wrthynt, “Ewch mewn heddwch; y mae'ch taith dan ofal yr ARGLWYDD.”

7. Aeth y pump i ffwrdd, a chyrraedd Lais. Yno gwelsant fod y bobl yn byw'n ddiogel, yr un fath â'r Sidoniaid, yn dawel a dibryder, heb fod yn brin o ddim ar y ddaear, ond yn berchnogion ar gyfoeth. Yr oeddent yn bell oddi wrth y Sidoniaid, heb gysylltiad rhyngddynt a neb.

8. Wedi iddynt ddychwelyd at eu pobl i Sora ac Estaol, gofynnodd eu pobl, “Beth yw'ch barn?”

9. Ac meddent hwy, “Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.

10. Pan ddewch yno, byddwch yn dod at bobl ddibryder ac i wlad eang; yn wir y mae Duw wedi rhoi i chwi le heb ynddo brinder o ddim ar y ddaear.”

11. Felly cychwynnodd chwe chant o wŷr arfog yn perthyn i lwyth Dan o Sora ac Estaol.

12. Aethant a gwersyllu yn Ciriath-jearim yn Jwda, a dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Mahane-dan hyd heddiw; y mae i'r gorllewin o Ciriath-jearim.

13. Oddi yno aethant ymlaen i fynydd-dir Effraim nes dod at dŷ Mica.

14. Yna dywedodd y pump, a oedd wedi mynd i ysbïo'r wlad cyn belled â Lais, wrth eu brodyr, “A wyddoch chwi fod effod, teraffim, cerfddelw a delw dawdd yn un o'r tai hyn? Gwyddoch beth i'w wneud yn awr.”

15. Troesant am y lle, a dod at dŷ Mica, cartref y llanc o Lefiad, a'i gyfarch.

16. Safodd y chwe channwr arfog o lwyth Dan wrth y drws,

17. tra aeth y pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad i mewn i gymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd. Safai'r offeiriad wrth y drws gyda'r chwe channwr arfog.

18. Wedi i'r rhain fynd i mewn i dŷ Mica a chymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd, dywedodd yr offeiriad wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud?”

19. Dywedasant hwythau wrtho, “Taw di, a phaid â dweud dim. Tyrd gyda ni, a bydd yn dad ac yn offeiriad i ni. Prun sydd orau, ai bod yn offeiriad i un teulu, ynteu'n offeiriad i lwyth a thylwyth yn Israel?”

20. Bodlonodd yr offeiriad a chymerodd yr effod, y teraffim a'r gerfddelw, ac ymuno â'r fintai.

21. Wedi iddynt ailgychwyn, gosodasant y rhai bychain a'r preiddiau a'r meddiannau ar y blaen.

22. Yr oeddent wedi mynd gryn bellter o dŷ Mica cyn i'r dynion yn y tai gerllaw ei gartref gael eu galw ynghyd i ymlid y Daniaid.

23. Wedi iddynt oddiweddyd y Daniaid, troesant hwythau i'w hwynebu, ac meddent wrth Mica, “Beth sy'n bod, i beri iti ddod â'r fath fintai?”

24. Atebodd Mica, “Yr ydych wedi cymryd y duwiau a wneuthum, ac wedi mynd â'm hoffeiriad; a beth arall sydd gennyf? Sut felly y gallwch ofyn imi, ‘Beth sy'n bod arnat?’ ”

25. Ac meddai'r Daniaid wrtho, “Paid â chodi dy lais arnom, rhag i ddynion gwyllt eu tymer ruthro arnoch, ac i ti a'th deulu golli'ch bywyd.”

26. Yna aeth y Daniaid ar eu ffordd, a gwelodd Mica eu bod yn gryfach nag ef, a throes yn ôl a mynd adref.

27. Cymerodd y Daniaid y pethau yr oedd Mica wedi eu gwneud, a'i offeiriad, ac aethant i Lais, at bobl dawel a dibryder, a'u lladd â'r cleddyf a llosgi'r dref.

28. Nid oedd neb i'w harbed, oherwydd yr oedd yn rhy bell o Sidon, ac nid oedd ganddynt gysylltiad â neb. Yr oedd y dref mewn dyffryn yn perthyn i Beth-rehob, ac ailgododd y Daniaid y dref a byw ynddi,

29. a'i galw'n Dan ar ôl eu tad Dan, a aned i Israel. Ond Lais oedd enw'r dref ar y cyntaf.

30. Gosododd y Daniaid y gerfddelw i fyny, a bu Jonathan fab Gersom, fab Manasse, ac yna'i feibion, yn offeiriaid i lwyth Dan hyd y dydd y caethgludwyd y wlad.

31. Yr oeddent yn defnyddio'r gerfddelw a wnaeth Mica yr holl adeg y bu tŷ Dduw yn Seilo.