Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 14:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Pan welsant ef, dewiswyd deg ar hugain o gyfeillion i gadw cwmni iddo.

12. Ac meddai Samson wrthynt, “Yr wyf am osod pos i chwi; os llwyddwch i'w ateb yn gywir yn ystod saith diwrnod y wledd, rhof i chwi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.

13. Ond os methwch roi'r ateb imi, rhaid i chwi roi i mi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.”

14. Dywedasant wrtho, “Mynega dy bos, inni ei glywed.” A dywedodd wrthynt:“O'r bwytawr fe ddaeth bwyd,ac o'r cryf fe ddaeth melystra.”Am dridiau buont yn methu ateb y pos.

15. Ar y pedwerydd dydd dywedasant wrth wraig Samson, “Huda dy ŵr i ddatgelu'r pos inni, neu fe'th losgwn di a'th deulu. Ai er mwyn ein tlodi y rhoesoch wahoddiad inni yma?”

16. Aeth gwraig Samson ato yn ei dagrau a dweud, “Fy nghasáu yr wyt ti, nid fy ngharu; rwyt wedi gosod pos i lanciau fy mhobl heb ei egluro i mi.” Ac meddai yntau, “Nid wyf wedi ei egluro i'm tad a'm mam; pam yr eglurwn ef i ti?”

17. Bu'n wylo wrtho trwy gydol y saith diwrnod y cynhaliwyd y wledd, ac ar y seithfed dydd fe'i heglurodd iddi, am ei bod wedi ei flino. Eglurodd hithau'r pos i lanciau ei phobl.

18. A dywedodd dynion y dref wrtho ar y seithfed diwrnod, cyn i'r haul fachlud:“Beth sy'n felysach na mêl,a beth sy'n gryfach na llew?”Dywedodd yntau wrthynt:“Oni bai i chwi aredig â'm heffer,ni fyddech wedi datrys fy mhos.”

19. Yna disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth i lawr i Ascalon a lladdodd ddeg ar hugain o ddynion. Cymerodd eu gwisgoedd a rhoi'r siwtiau i'r rhai a atebodd y pos, ond yr oedd wedi digio'n enbyd ac aeth yn ei ôl adref.

20. Rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill, a fu'n was priodas iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 14