Hen Destament

Testament Newydd

Amos 4:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd,cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys;canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW.

6. “Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd,ac eisiau bara ym mhob man;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

7. “Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych,pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf;rhoddais law ar un ddinas,a'i atal oddi ar un arall;glawiodd ar un cae,a gwywodd y cae na chafodd law;

8. crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinasi yfed dŵr, ond heb gael digon;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

9. “Trewais chwi â malltod a llwydni;difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd;bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

10. “Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft;lleddais eich llanciau â'r cleddyf,a chaethgludo eich meirch;gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

11. “Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

12. “Hyn felly a wnaf i ti, Israel.Gan fy mod am wneud hyn i ti,bydd yn barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw.”

13. Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrëwr y gwynt,yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw,yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch,ac yn cerdded uchelderau'r ddaear—yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 4