Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Israel Heb Ddychwelyd

1. Clywch y gair hwn, fuchod Basan,sydd ym mynydd Samaria,sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus,sy'n dweud wrth eu gwŷr, “Dewch â gwin, inni gael yfed”:

2. Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd,“Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnochpan ddygir chwi i ffwrdd â bachau,a'r olaf ohonoch â bachau pysgota.

3. Ac ewch allan trwy'r bylchau,pob un ohonoch ar ei chyfer,ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD.

4. “Dewch i Fethel a throseddu,i Gilgal a phechu fwyfwy;dygwch eich aberthau bob borea'ch degymau bob tridiau;

5. offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd,cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys;canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW.

6. “Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd,ac eisiau bara ym mhob man;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

7. “Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych,pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf;rhoddais law ar un ddinas,a'i atal oddi ar un arall;glawiodd ar un cae,a gwywodd y cae na chafodd law;

8. crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinasi yfed dŵr, ond heb gael digon;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

9. “Trewais chwi â malltod a llwydni;difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd;bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

10. “Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft;lleddais eich llanciau â'r cleddyf,a chaethgludo eich meirch;gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

11. “Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

12. “Hyn felly a wnaf i ti, Israel.Gan fy mod am wneud hyn i ti,bydd yn barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw.”

13. Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrëwr y gwynt,yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw,yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch,ac yn cerdded uchelderau'r ddaear—yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.