Hen Destament

Testament Newydd

Amos 2:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin,a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, ‘Peidiwch â phroffwydo.’

13. “Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr,fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu.

14. Derfydd am ddihangfa i'r cyflym,ac ni ddeil y cryf yn ei gryfder,ac ni all y rhyfelwr ei waredu ei hun;

15. ni saif y saethwr bwa;ni all y cyflym ei droed ei achub ei hun,na'r marchog ei waredu ei hun;

16. bydd y dewraf ei galon o'r rhyfelwyryn ffoi yn noeth yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 2