Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Moab

1. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Moab,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddo losgi'n galch esgyrn brenin Edom,

2. anfonaf dân ar Moab,ac fe ddifa geyrydd Cerioth.Bydd farw Moab yng nghanol terfysg,yng nghanol banllefau a sŵn utgorn.

3. Torraf ymaith y pennaeth o'i chanol,a lladdaf ei holl swyddogion gydag ef,” medd yr ARGLWYDD.

Jwda

4. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Jwda,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD,a pheidio â chadw ei ddeddfau,a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddaua ddilynwyd gan eu hynafiaid,

5. anfonaf dân ar Jwda,ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem.”

Barn Duw ar Israel

6. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Israel,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt werthu'r cyfiawn am ariana'r anghenog am bâr o sandalau;

7. am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwchac yn ystumio ffordd y gorthrymedig;am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances,fel bod halogi ar fy enw sanctaidd;

8. am eu bod yn gorwedd ar ddillad gwystlyn ymyl pob allor;am eu bod yn yfed gwin y ddirwyyn nhŷ eu Duw.

9. “Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau,a'i uchder fel uchder cedrwydda'i gryfder fel y derw;dinistriais ei ffrwyth oddi arnoa'i wreiddiau oddi tano.

10. Myfi hefyd a'ch dygodd o'r Aifft,a'ch arwain am ddeugain mlynedd yn yr anialwch,i feddiannu gwlad yr Amoriad.

11. Codais rai o'ch meibion yn broffwydi,a rhai o'ch llanciau yn Nasareaid.Onid fel hyn y bu, bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.

12. “Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin,a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, ‘Peidiwch â phroffwydo.’

13. “Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr,fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu.

14. Derfydd am ddihangfa i'r cyflym,ac ni ddeil y cryf yn ei gryfder,ac ni all y rhyfelwr ei waredu ei hun;

15. ni saif y saethwr bwa;ni all y cyflym ei droed ei achub ei hun,na'r marchog ei waredu ei hun;

16. bydd y dewraf ei galon o'r rhyfelwyryn ffoi yn noeth yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.