3. Wedi i'r Brenin Dafydd gyrraedd Jerwsalem, cymerodd y deg gordderchwraig a adawyd i ofalu am y tŷ, a'u rhoi dan warchod; yr oedd yn rhoi eu cynhaliaeth iddynt, ond heb fynd i mewn atynt. A buont dan glo hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw fel gweddwon.
4. Yna dywedodd y brenin wrth Amasa, “Galw ynghyd ataf filwyr Jwda, a bydd yn ôl yma o fewn tridiau.”
5. Aeth Amasa i alw Jwda ynghyd, ond oedodd yn hwy na'r amser penodedig.
6. Ac meddai Dafydd wrth Abisai, “Yn awr bydd Seba fab Bichri yn creu mwy o helynt inni nag Absalom; cymer fy ngweision ac erlid ar ei ôl, rhag iddo gyrraedd dinasoedd caerog a diflannu o'n golwg.”
7. Dilynwyd Abisai gan Joab a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid a'r holl filwyr profiadol, a gadawsant Jerwsalem i erlid ar ôl Seba fab Bichri. Pan oeddent wrth y maen mawr yn Gibeon, daeth Amasa i'w cyfarfod.
8. Yr oedd Joab wedi gwregysu'r fantell yr oedd yn ei gwisgo, a throsti yr oedd gwregys ei gleddyf a oedd mewn gwain wedi ei rhwymo ar ei lwynau; ac wrth iddo symud ymlaen, fe syrthiodd y cleddyf.
9. Wedi i Joab ddweud wrth Amasa, “Sut yr wyt ti, fy mrawd?” gafaelodd â'i law dde ym marf Amasa i'w gusanu.
10. Nid oedd Amasa wedi sylwi ar y cleddyf oedd yn llaw Joab, a thrawodd Joab ef yn ei fol nes i'w ymysgaroedd ddisgyn i'r llawr, a bu farw heb ail ergyd. Yna aeth Joab a'i frawd Abisai yn eu blaen ar ôl Seba fab Bichri.
11. Safodd un o lanciau Joab wrth y corff a dweud, “Pwy bynnag sy'n fodlon ar Joab, a phwy bynnag sydd o blaid Dafydd, canlynwch Joab.”
12. Yr oedd Amasa'n gorwedd yn bentwr gwaedlyd ar ganol yr heol, a phan welodd y dyn fod y bobl i gyd yn sefyll, symudodd Amasa o'r heol i'r cae a bwrw dilledyn drosto.