Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 17:7-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Dywedodd Husai wrth Absalom, “Nid yw'r cyngor a roddodd Ahitoffel y tro hwn yn un da.”

8. Aeth Husai ymlaen, “Yr wyt ti'n adnabod dy dad a'i ddynion: y maent yn filwyr profiadol, ac mor filain ag arth wyllt wedi ei hamddifadu o'i chenawon; hefyd, y mae dy dad yn gynefin â rhyfela, ni fydd ef yn treulio'r nos gyda'r fyddin, ac y mae eisoes wedi ymguddio mewn ogof neu ryw lecyn arall.

9. Pan leddir rhywrai o blith dy filwyr ar y dechrau, bydd pwy bynnag a fydd yn clywed y newydd yn meddwl bod cyflafan wedi digwydd ymysg y rhai sy'n dilyn Absalom.

10. Yna fe fydd ysbryd y cryfaf, yr un â chalon fel llew, yn darfod yn llwyr, oherwydd y mae Israel gyfan yn gwybod mai milwr dewr yw dy dad, a bod dynion grymus gydag ef.

11. Yr wyf fi am dy gynghori i gasglu atat Israel gyfan o Dan i Beerseba, mor niferus â thywod glan y môr, a bod i tithau'n bersonol fynd gyda hwy i'r frwydr.

12. Ac fe ddown ar ei warthaf, ym mha le bynnag y ceir ef; disgynnwn arno fel gwlith yn syrthio ar y ddaear, ac ni adewir dim un ohonynt, ef na'r dynion sydd gydag ef.

13. Ac os digwydd iddo ddianc i ryw ddinas, bydd Israel gyfan yn taflu rhaffau am y ddinas honno a byddwn yn ei llusgo i'r ceunant, heb adael y garreg leiaf ohoni ar ôl.”

14. Dywedodd Absalom a'r holl Israeliaid, “Y mae cyngor Husai yr Arciad yn well na chyngor Ahitoffel.” Yr ARGLWYDD oedd wedi peri drysu cyngor da Ahitoffel, er mwyn i'r ARGLWYDD ddwyn dinistr ar Absalom.

15. Dywedodd Husai wrth yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar, “Fel hyn ac fel hyn yr oedd cyngor Ahitoffel i Absalom a henuriaid Israel; ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.

16. Anfonwch yn awr ar frys a dywedwch wrth Ddafydd, ‘Paid ag aros y nos wrth rydau'r anialwch, ond dos drosodd ar unwaith, rhag i'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef gael eu difa.’ ”

17. Yr oedd Jonathan ac Ahimaas yn aros yn En-rogel, a morwyn yn mynd â'r neges iddynt hwy, a hwythau wedyn yn mynd â'r neges i'r Brenin Dafydd; oherwydd ni feiddient gael eu gweld yn mynd i'r ddinas.

18. Ond fe welodd bachgen hwy, a dweud wrth Absalom; felly aeth y ddau ar frys nes dod i dŷ rhyw ddyn yn Bahurim. Yr oedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth ac aethant i lawr iddo.

19. Yna cymerodd ei wraig y caead a'i osod ar geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel nad oedd neb yn gwybod.

20. Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ a gofyn i'r wraig, “Ple mae Ahimaas a Jonathan?” dywedodd hithau, “Y maent wedi mynd dros y ffrwd ddŵr.” Ond er iddynt chwilio, ni chawsant mohonynt, ac aethant yn ôl i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 17