Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 17:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dof ar ei warthaf pan fydd yn lluddedig a diymadferth, a chodaf arswyd arno, nes bod pawb sydd gydag ef yn ffoi; ni laddaf neb ond y brenin,

3. a dof â'r holl bobl yn ôl atat fel priodferch yn dod adref at ei phriod. Bywyd un yn unig sydd arnat ei eisiau; caiff gweddill y bobl lonydd.”

4. Yr oedd Absalom a holl henuriaid Israel yn gweld hwn yn gyngor da,

5. ond dywedodd Absalom, “Galwch Husai yr Arciad hefyd er mwyn inni glywed beth sydd ganddo yntau i'w ddweud.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 17