Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 17:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna dywedodd Ahitoffel wrth Absalom, “Gad imi ddewis deuddeng mil o ddynion a mynd ar ôl Dafydd heno.

2. Dof ar ei warthaf pan fydd yn lluddedig a diymadferth, a chodaf arswyd arno, nes bod pawb sydd gydag ef yn ffoi; ni laddaf neb ond y brenin,

3. a dof â'r holl bobl yn ôl atat fel priodferch yn dod adref at ei phriod. Bywyd un yn unig sydd arnat ei eisiau; caiff gweddill y bobl lonydd.”

4. Yr oedd Absalom a holl henuriaid Israel yn gweld hwn yn gyngor da,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 17