Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:19-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yna gofynnodd y brenin, “A yw llaw Joab gyda thi yn hyn i gyd?” Atebodd y wraig, “Cyn wired â bod f'arglwydd frenin yn fyw, nid oes modd osgoi yr hyn a ddywedodd f'arglwydd frenin, ie, dy was Joab a roddodd orchymyn imi, ac ef a osododd y geiriau hyn i gyd yng ngenau dy lawforwyn.

20. Er mwyn rhoi agwedd wahanol ar y peth y gwnaeth dy was Joab hyn, ond y mae f'arglwydd cyn galled ag angel Duw i ddeall popeth ar wyneb daear.”

21. Dywedodd y brenin wrth Joab, “Edrych, yr wyf am wneud hyn; felly, dos a thyrd â'r llanc Absalom yn ôl.”

22. Syrthiodd Joab ar ei wyneb i'r llawr, a moesymgrymodd a bendithio'r brenin, a dweud, “Fe ŵyr dy was heddiw imi ennill ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin, am iti wneud dymuniad dy was.”

23. Aeth Joab ar unwaith i Gesur, a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.

24. Ond dywedodd y brenin, “Aed i'w dŷ ei hun; ni chaiff weld fy wyneb i.” Felly aeth Absalom i'w dŷ ac ni welodd wyneb y brenin.

25. Trwy Israel gyfan nid oedd neb y gellid ei ganmol am ei harddwch fel Absalom; nid oedd mefl arno o wadn ei droed hyd ei gorun.

26. Byddai'n eillio'i ben ar ddiwedd pob blwyddyn am fod ei wallt mor drwm, a phan bwysai'r gwallt oedd wedi ei eillio oddi ar ei ben, pwysai ddau can sicl yn ôl safon y brenin.

27. Ganwyd i Absalom dri mab, ac un ferch, o'r enw Tamar; yr oedd honno'n ferch brydferth.

28. Arhosodd Absalom yn Jerwsalem am ddwy flynedd gyfan heb weld wyneb y brenin.

29. Yna anfonodd am Joab, er mwyn iddo'i anfon at y brenin, ond nid oedd yn fodlon dod. Anfonodd eilwaith, ond yr oedd yn gwrthod dod.

30. Yna dywedodd wrth ei weision, “Edrychwch, y mae llain Joab yn ffinio ar f'un i, ac y mae haidd ganddo yno; ewch a rhowch hi ar dân.” A dyna weision Absalom yn rhoi'r llain ar dân.

31. Aeth Joab ar unwaith at Absalom i'w dŷ, a gofyn iddo, “Pam y mae dy weision wedi rhoi fy llain i ar dân?”

32. Ac meddai Absalom wrth Joab, “Edrych, fe anfonais atat a dweud, ‘Tyrd yma imi dy anfon di at y brenin i ofyn pam y deuthum yn ôl o Gesur; byddai'n well arnaf pe bawn wedi aros yno.’ Yn awr yr wyf am weld wyneb y brenin, ac os oes camwedd ynof, lladded fi.”

33. Yna daeth Joab at y brenin ac adrodd yr hanes wrtho, a galwodd yntau Absalom ato; ac wedi iddo ddod at y brenin, moesymgrymodd iddo â'i wyneb i'r llawr o flaen y brenin, a rhoddodd y brenin gusan i Absalom.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14