Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 9:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tua'r amser hwnnw digwyddai fod Antiochus wedi dychwelyd mewn anhrefn o barthau gwlad Persia.

2. Yr oedd wedi mynd i mewn i'r ddinas a elwir Persepolis a cheisio ysbeilio'i themlau a'i chymryd hi i'w feddiant. Parodd hyn i'r bobl ruthro i gymryd arfau i'w hamddiffyn, a'r canlyniad fu i Antiochus gael ei yrru ar ffo gan y trigolion a gorfod cilio mewn gwarth.

3. Pan oedd yn ardal Ecbatana daeth y newydd ato am helynt Nicanor ac am Timotheus a'i fyddin.

4. Yng nghynnwrf ei ddicter daeth i'w feddwl wneud i'r Iddewon dalu am y niwed a gafodd gan y rhai oedd wedi ei yrru ar ffo, a gorchmynnodd i yrrwr ei gerbyd fwrw ymlaen heb aros yn unman nes cyrraedd pen y daith. Ond yr oedd barnedigaeth y nef yn cyd-deithio ag ef oherwydd iddo ddweud yn ei draha, “Pan gyrhaeddaf yno, fe drof Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i'r Iddewon.”

5. A dyma'r Arglwydd sy'n gweld popeth, Duw Israel, yn ei daro â chlefyd na ellid na'i wella na'i weld. Nid cynt y llefarodd y gair nag y cydiodd poen marwol yn ei goluddion, a chnofeydd mewnol dirdynnol,

6. fel y gweddai'n iawn i un oedd wedi dirdynnu coluddion pobl eraill ag arteithiau aml a dieithr.

7. Ond nid oedd dim pall ar ei haerllugrwydd; yn llawn traha, ac â'i ddicter yn erbyn yr Iddewon yn wenfflam, daliai ati i orchymyn brys. Ond wrth i'w gerbyd ruthro yn ei flaen, syrthiodd allan ohono. Yr oedd ei godwm mor drwm nes rhwygo'n dost bob aelod o'i gorff.

8. Ac felly, hwnnw a fu gynnau'n ei gyfrif ei hun gymaint yn uwch na dyn ag i fedru rhoi gorchmynion i donnau'r môr, ac yn tybio y gallai bwyso uchelderau'r mynyddoedd mewn clorian, dyma ef yn awr, wedi cael ei fwrw i lawr, yn cael ei gludo ar elor, yn amlygiad clir i bawb o allu Duw.

9. Yn wir, heidiodd pryfed allan o gorff y dyn annuwiol hwn, a dechreuodd ei gnawd ddadfeilio ac yntau'n dal yn fyw, gan beri poenau ingol. Llethwyd y fyddin gyfan gan ddrewdod ei gorff pydredig.

10. Ie, y dyn a oedd ychydig ynghynt yn tybio y gallai gyffwrdd â sêr y nefoedd, yn awr ni allai neb ei gludo o achos bwrn annioddefol y drewdod.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 9