Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 8:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Ond gwerthodd y lleill bopeth oedd ganddynt yn weddill, gan weddïo ag un llais ar yr Arglwydd ar iddo'u hachub rhag y Nicanor annuwiol hwn, a oedd wedi eu gwerthu cyn y frwydr;

15. ac ar iddo wneud hynny, os nad er eu mwyn hwy eu hunain, yna er mwyn y cyfamodau a wnaethai â'u hynafiaid, ac er mwyn ei enw sanctaidd a mawreddog, yr enw a roesai arnynt.

16. Casglodd Macabeus ei wŷr ynghyd, chwe mil ohonynt, a'u hannog i beidio â chymryd eu hysigo gan arswyd o'r gelyn, nac ofni'r llu mawr o'r Cenhedloedd oedd yn ymosod arnynt yn anghyfiawn, ond i ymladd yn deilwng o'u tras,

17. gan gadw o flaen eu llygaid y sarhad anghyfreithlon a ddygwyd gan y gelyn ar y deml sanctaidd, y trais gwatwarus a fu ar y ddinas, ac ar ben hynny yr ymdrechion i ddileu eu harferion traddodiadol.

18. “Y maent hwy,” meddai, “yn ymddiried mewn grym arfau ynghyd â gweithredoedd trahaus, a ninnau yn y Duw Hollalluog, a all fwrw i lawr ag un amnaid y rhai sy'n ymosod arnom, ac yn wir yr holl fyd.”

19. Aeth yn ei flaen i sôn wrthynt am y cymorth a gawsent yn amser eu hynafiaid: am hwnnw yn amser Senacherib, pan laddwyd cant a phedwar ugain a phump o filoedd;

20. ac am y frwydr a fu ym Mabilonia yn erbyn y Galatiaid, pryd y daeth cyfanswm o wyth mil i'r gad ynghyd â phedair mil o Facedoniaid. Fe'u cafodd y Macedoniaid eu hunain mewn anawsterau, ond fe laddodd yr wyth mil, trwy'r cymorth a ddaeth iddynt o'r nef, gant ac ugain o filoedd, ac ennill ysbail sylweddol.

21. Wedi iddo'u calonogi â'r geiriau hyn a'u gwneud yn barod i farw dros eu cyfreithiau a'u gwlad, rhannodd ei fyddin yn bedair adran.

22. Hefyd penododd ei frodyr, Simon, Joseff a Jonathan, i arwain adrannau, gyda mil a hanner o wŷr dan orchymyn pob un,

23. ac Eleasar hefyd. Wedi darllen y llyfr sanctaidd a rhoi'r arwyddair “Duw yw'n cymorth”, fe'i gosododd ei hun ar flaen y gatrawd gyntaf ac ymosod ar Nicanor.

24. A'r Hollalluog yn ymladd o'u plaid, lladdasant dros naw mil o'r gelyn a chlwyfo ac anafu'r rhan fwyaf o fyddin Nicanor, a'u gorfodi oll i ffoi.

25. Cymerasant arian y bobl oedd wedi dod i'w prynu'n gaethweision; ac wedi eu hymlid gryn bellter rhoesant y gorau iddi am ei bod yn gyfyng arnynt o ran amser;

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 8