Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 7:12-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Syfrdanwyd y brenin a'i gymdeithion gan ysbryd y llanc a'i ddifaterwch ynglŷn â'r poenau.

13. Wedi i hwnnw ymadael â'r fuchedd hon, fe boenydiwyd ac arteithiwyd y pedwerydd yn yr un modd.

14. Pan ddaeth yn agos at y diwedd meddai, “Nid oes dim rhagorach nag ymadael â'r fuchedd hon trwy ddwylo dynol, a disgwyl am ein hatgyfodi gan Dduw, gan obeithio yn ei addewidion; ond i ti ni bydd atgyfodiad i fywyd.”

15. Yn nesaf daethpwyd â'r pumed ymlaen a'i boenydio.

16. Edrychodd ef ar y brenin ac meddai, “Am fod gennyt awdurdod ymhlith dynion yr wyt yn gwneud fel y mynni, er mai meidrolyn wyt. Ond paid â meddwl fod Duw wedi gadael ein cenedl yn amddifad.

17. Dal di ati, a chei weld mawredd ei rym yn yr arteithiau a ddaw arnat ti ac ar dy ddisgynyddion.”

18. Ar ôl hwn daethpwyd â'r chweched ymlaen, a phan oedd ar farw meddai, “Paid â gwneud camsyniad ofer: nyni ein hunain, a'n pechodau yn erbyn ein Duw, yw achos y dioddef hwn a ddaeth arnom yn ei holl arswyd;

19. a phaid â meddwl y cei di fynd heb dy gosbi am dy gais i ymladd yn erbyn Duw.”

20. Ond tra rhyfeddol a theilwng o goffadwriaeth fendigedig oedd y fam. Er iddi weld colli ei saith mab yn ystod un diwrnod, fe ddaliodd y cwbl ag ysbryd dewr am fod ei gobaith yn yr Arglwydd.

21. Bu wrthi'n calonogi pob un ohonynt yn eu mamiaith, ac â phenderfyniad diysgog cwbl deilwng o'i thras, ac â'i meddwl benyw wedi ei gyffroi gan wrhydri tanbaid, dywedai wrthynt,

22. “Ni wn i sut y daethoch i'm croth; nid myfi a roes anadl ac einioes i chwi, ac nid myfi a osododd yn eu trefn elfennau corff neb ohonoch.

23. Er hynny, Creawdwr y byd, Lluniwr genedigaeth dynion a Dyfeisiwr dechrau pob peth, a rydd yn ôl i chwi yn ei drugaredd eich anadl a'ch einioes, am eich bod yn awr yn eich dibrisio'ch hunain er mwyn ei gyfreithiau ef.”

24. Yr oedd Antiochus yn tybio ei fod yn cael ei fychanu, ac yn amau cerydd yn ei llais. Gan fod y mab ieuengaf yn dal yn fyw, ceisiodd nid yn unig gael perswâd arno â geiriau, ond ymrwymodd â llw y gwnâi ef yn gyfoethog ac yn dda ei fyd unwaith y cefnai ar ffyrdd ei hynafiaid; fe'i gwnâi'n Gyfaill i'r brenin, ac ymddiried swyddi pwysig iddo.

25. Ond gan na chymerai'r dyn ifanc ddim sylw o gwbl ohono, galwodd y brenin y fam ato a'i chymell i gynghori'r llanc i achub ei fywyd.

26. Wedi hir gymell ganddo, cydsyniodd hi i berswadio'i mab;

27. pwysodd tuag ato, ac mewn dirmyg llwyr o'r teyrn creulon fe ddywedodd yn eu mamiaith, “Fy mab, tosturia wrthyf fi dy fam, a'th gariodd yn y groth am naw mis, a rhoi'r fron iti am dair blynedd, a'th fagu a'th ddwyn i'th oedran presennol, a'th gynnal.

28. Yr wyf yn deisyf arnat, fy mhlentyn, edrych ar y nef a'r ddaear a gwêl bopeth sydd ynddynt, ac ystyria mai o ddim y gwnaeth Duw hwy, a bod yr hil ddynol yn dod i fodolaeth yn yr un modd.

29. Paid ag ofni'r dienyddiwr hwn, ond bydd deilwng o'th frodyr. Derbyn dy farwolaeth, er mwyn i mi dy gael yn ôl gyda'th frodyr yn nydd trugaredd.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 7