Yr oedd Antiochus yn tybio ei fod yn cael ei fychanu, ac yn amau cerydd yn ei llais. Gan fod y mab ieuengaf yn dal yn fyw, ceisiodd nid yn unig gael perswâd arno â geiriau, ond ymrwymodd â llw y gwnâi ef yn gyfoethog ac yn dda ei fyd unwaith y cefnai ar ffyrdd ei hynafiaid; fe'i gwnâi'n Gyfaill i'r brenin, ac ymddiried swyddi pwysig iddo.