Ac yr oedd eraill wedi ymgynnull yn ddirgel yn yr ogofâu gerllaw i gadw'r seithfed dydd. Fe'u bradychwyd i Philip, ac fe'u llosgwyd yn fyw i gyd gyda'i gilydd am iddynt wrthod ar egwyddor eu hamddiffyn eu hunain, o barch tuag at y dydd mwyaf cysegredig.