Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 4:47-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

47. Cyhoeddodd fod Menelaus, achos yr holl ddrwg, yn ddieuog o'r cyhuddiadau, a dedfrydodd i farwolaeth y cyhuddwyr druain, dynion y buasai hyd yn oed y Scythiaid, o'u clywed, wedi eu rhyddhau'n ddieuog.

48. Ond gweinyddwyd y gosb anghyfiawn yn ddiymdroi ar ddynion oedd wedi pledio achos y ddinas a'i phobl a'i llestri cysegredig.

49. Ffieiddiodd y Tyriaid hefyd yr anfadwaith, ac o'r herwydd darparasant yn helaeth ar gyfer eu hangladd.

50. Ond oherwydd gwanc y rhai oedd mewn grym, parhaodd Menelaus yn ei swydd, ac aeth ei ddrygioni ar gynnydd, nes iddo ddod yn archgynllwyniwr yn erbyn ei gyd-ddinasyddion.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 4