Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 2:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. y pryd hwnnw daw'r Arglwydd â'r pethau hyn i'r golwg unwaith eto, ac fe welir gogoniant yr Arglwydd a'r cwmwl, fel yr amlygwyd ef yn amser Moses, a hefyd pan weddodd Solomon am i'r deml gael ei chysegru'n deilwng.’ ”

9. Adroddwyd hefyd i Solomon, fel un a chanddo ddoethineb, offrymu aberth i ddathlu cysegru a chwblhau'r deml.

10. Yn union fel y gweddïodd Moses yntau ar yr Arglwydd, ac y disgynnodd tân o'r nef a llwyrlosgi'r aberthau yn ulw, felly hefyd y disgynnodd y tân a llwyrlosgi'r poethoffrymau wedi i Solomon weddio.

11. Yr oedd Moses wedi dweud, “Am na fwytawyd ef, llwyr losgwyd yr offrwm dros bechod.”

12. Yn yr un modd hefyd dathlodd Solomon yr wyth diwrnod.

13. Ceir yr un hanes hefyd yng nghofnodion ac atgofion Nehemeia, ynghyd ag adroddiad am y modd y sefydlodd lyfrgell trwy gasglu ynghyd y llyfrau ynglŷn â'r brenhinoedd, llyfrau'r proffwydi, gweithiau Dafydd, a llythyrau'r brenhinoedd ynghylch rhoddion cysegredig.

14. Yn yr un modd y mae Jwdas wedi casglu ynghyd yr holl lyfrau a wasgarwyd o achos y rhyfel a ddaeth arnom, ac y maent yn ein meddiant ni;

15. felly, os oes arnoch eu hangen, anfonwch rywrai i'w cyrchu.

16. “Yr ydym yn ysgrifennu atoch am ein bod yn bwriadu dathlu Gŵyl y Buredigaeth; da o beth, gan hynny, fydd i chwi gadw ei dyddiau.

17. Y Duw a achubodd ei holl bobl ac a roes y frenhiniaeth a'r offeiriadaeth a'r cysegriad yn etifeddiaeth i bawb,

18. fel yr addawodd trwy'r gyfraith, hwn yw'r Duw yr ydym yn gobeithio y bydd iddo drugarhau wrthym yn fuan, a'n casglu ynghyd o bob man dan y nef i'w deml sanctaidd; oherwydd fe'n hachubodd rhag drygau enbyd, ac fe burodd y deml.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 2