Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 2:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Oherwydd yn union fel y mae'n rhaid i bensaer tŷ newydd ystyried yr holl adeiladwaith, tra mae'r dyn sy'n ceisio peintio â chwyr poeth yn gorfod chwilio a dewis yr hyn sy'n addas at addurno, felly y barnaf ei bod hi arnaf finnau.

30. Y mae'n briodol i awdur gwreiddiol yr hanes fynd dros y maes llafur, gan ei droedio o'r naill ben i'r llall a chwilota ymhlith y manion;

31. ond rhaid caniatáu i un sy'n gwneud aralleiriad geisio mynegiant cryno, heb unrhyw ymgais i ysgrifennu hanes cyflawn.

32. Yn awr, gan hynny, gadewch imi ddechrau adrodd yr hanes heb ychwanegu rhagor at yr hyn a ddywedwyd eisoes; oherwydd peth gwirion fyddai ymhelaethu cyn dechrau'r hanes, a thalfyrru'r hanes ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 2