Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 2:19-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Dyma weithredoedd Jwdas Macabeus a'i frodyr: puro'r deml fawr a chysegru'r allor;

20. y rhyfeloedd a ddilynodd yn erbyn Antiochus Epiffanes a'i fab Ewpator;

21. y gweledigaethau nefol a gafodd y rhai oedd yn ymladd am y dewraf dros Iddewiaeth nes anrheithio'r holl wlad, er lleied eu nifer, ac ymlid ymaith luoedd y barbariaid;

22. adennill y deml sy'n enwog trwy'r byd i gyd; rhyddhau'r ddinas, ac adfer y cyfreithiau oedd ar gael eu dirymu, trwy drugaredd a thiriondeb diball yr Arglwydd tuag atynt.

23. Y mae'r digwyddiadau hyn wedi cael eu disgrifio gan Jason y Cyreniad mewn pum cyfrol. Fy mwriad i yw ceisio crynhoi'r cwbl mewn un llyfr.

24. Oherwydd o ystyried y ffrwd o rifau, a'r rhwystr y mae swmp y deunydd yn ei osod ar ffordd pobl sy'n awyddus i gwmpasu storïau'r hanes,

25. ceisiais lunio gwaith a fyddai'n ddifyr i'r rhai sy'n dymuno darllen, yn hwylus i'r rhai sy'n mwynhau dysgu ar eu cof, ac yn fuddiol i bawb sy'n digwydd taro arno.

26. I mi sydd wedi ymgymryd â'r gwaith beichus hwn o grynhoi, gorchwyl anodd yw, yn gofyn chwys a cholli cwsg,

27. megis nad gorchwyl esmwyth yw paratoi gwledd a cheisio boddhau chwaeth pobl eraill. Er hynny, i ennill diolchgarwch y cyhoedd, byddaf yn dwyn y baich yn llawen.

28. Lle'r awdur gwreiddiol oedd manylu ar bob digwyddiad, ond ymdrechu y byddaf fi i ddilyn amlinelliad cryno.

29. Oherwydd yn union fel y mae'n rhaid i bensaer tŷ newydd ystyried yr holl adeiladwaith, tra mae'r dyn sy'n ceisio peintio â chwyr poeth yn gorfod chwilio a dewis yr hyn sy'n addas at addurno, felly y barnaf ei bod hi arnaf finnau.

30. Y mae'n briodol i awdur gwreiddiol yr hanes fynd dros y maes llafur, gan ei droedio o'r naill ben i'r llall a chwilota ymhlith y manion;

31. ond rhaid caniatáu i un sy'n gwneud aralleiriad geisio mynegiant cryno, heb unrhyw ymgais i ysgrifennu hanes cyflawn.

32. Yn awr, gan hynny, gadewch imi ddechrau adrodd yr hanes heb ychwanegu rhagor at yr hyn a ddywedwyd eisoes; oherwydd peth gwirion fyddai ymhelaethu cyn dechrau'r hanes, a thalfyrru'r hanes ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 2