Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 2:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. “Yr ydym yn ysgrifennu atoch am ein bod yn bwriadu dathlu Gŵyl y Buredigaeth; da o beth, gan hynny, fydd i chwi gadw ei dyddiau.

17. Y Duw a achubodd ei holl bobl ac a roes y frenhiniaeth a'r offeiriadaeth a'r cysegriad yn etifeddiaeth i bawb,

18. fel yr addawodd trwy'r gyfraith, hwn yw'r Duw yr ydym yn gobeithio y bydd iddo drugarhau wrthym yn fuan, a'n casglu ynghyd o bob man dan y nef i'w deml sanctaidd; oherwydd fe'n hachubodd rhag drygau enbyd, ac fe burodd y deml.”

19. Dyma weithredoedd Jwdas Macabeus a'i frodyr: puro'r deml fawr a chysegru'r allor;

20. y rhyfeloedd a ddilynodd yn erbyn Antiochus Epiffanes a'i fab Ewpator;

21. y gweledigaethau nefol a gafodd y rhai oedd yn ymladd am y dewraf dros Iddewiaeth nes anrheithio'r holl wlad, er lleied eu nifer, ac ymlid ymaith luoedd y barbariaid;

22. adennill y deml sy'n enwog trwy'r byd i gyd; rhyddhau'r ddinas, ac adfer y cyfreithiau oedd ar gael eu dirymu, trwy drugaredd a thiriondeb diball yr Arglwydd tuag atynt.

23. Y mae'r digwyddiadau hyn wedi cael eu disgrifio gan Jason y Cyreniad mewn pum cyfrol. Fy mwriad i yw ceisio crynhoi'r cwbl mewn un llyfr.

24. Oherwydd o ystyried y ffrwd o rifau, a'r rhwystr y mae swmp y deunydd yn ei osod ar ffordd pobl sy'n awyddus i gwmpasu storïau'r hanes,

25. ceisiais lunio gwaith a fyddai'n ddifyr i'r rhai sy'n dymuno darllen, yn hwylus i'r rhai sy'n mwynhau dysgu ar eu cof, ac yn fuddiol i bawb sy'n digwydd taro arno.

26. I mi sydd wedi ymgymryd â'r gwaith beichus hwn o grynhoi, gorchwyl anodd yw, yn gofyn chwys a cholli cwsg,

27. megis nad gorchwyl esmwyth yw paratoi gwledd a cheisio boddhau chwaeth pobl eraill. Er hynny, i ennill diolchgarwch y cyhoedd, byddaf yn dwyn y baich yn llawen.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 2