24. Cadwodd Jwdas wrth ei ochr yr holl amser; yr oedd wedi cymryd at y dyn.
25. Anogodd ef i briodi ac i fagu plant; priododd yntau, cafodd lonyddwch a phrofi bywyd cyffredin.
26. Pan welodd Alcimus y cyfeillgarwch oedd rhyngddynt, cymerodd gopi o'r cytundeb a wnaethpwyd, a mynd at Demetrius a haeru bod bwriadau Nicanor yn groes i rai'r llywodraeth; oherwydd yr oedd wedi penodi Jwdas yn ddarpar-Gyfaill, ac yntau'n gynllwyniwr yn erbyn y deyrnas.
27. Enynnwyd dicter y brenin, a chythruddwyd ef gymaint gan athrodau'r dyn cwbl ddrygionus hwnnw nes iddo ysgrifennu at Nicanor, gan ddweud ei fod yn anfodlon iawn ar y cytundeb, a'i orchymyn i anfon Macabeus yn garcharor i Antiochia ar unwaith.
28. Parodd y neges hon ddryswch i Nicanor; yr oedd yn wrthun ganddo ddiddymu cytundeb â dyn oedd heb wneud unrhyw gamwedd.
29. Ond gan na allai weithredu'n groes i'r brenin, gwyliodd am gyfle i gyflawni'r cyfarwyddyd trwy ystryw.
30. Ond sylwodd Macabeus fod Nicanor yn fwy garw yn ei ymwneud ag ef a bod ei agwedd arferol yn llai cwrtais, a chan farnu nad oedd y garwedd hwn yn argoeli'n dda, casglodd nifer helaeth o'i ddilynwyr ynghyd ac ymguddio o olwg Nicanor.
31. Pan ddarganfu hwnnw fod Jwdas wedi cael y blaen yn deg arno, aeth i'r deml fawr a sanctaidd ar yr awr pan oedd yr offeiriaid yn offrymu'r aberthau arferol, a gorchymyn iddynt drosglwyddo'r dyn iddo.